National Theatre Wales

National Theatre Wales 2Mae National Theatre Wales yn dymuno penodi unigolyn egnïol a llawn cymhelliant ar gyfer y swydd wag a ganlyn.

Cydymaith Castio

 Bydd y Cydymaith Castio yn gweithio’n agos â phob un o Gyfarwyddwyr Llawrydd pob cynhyrchiad National Theatre Wales (NTW) a gyda Chyfarwyddwr Artistig  NTW er mwyn recriwtio’r actorion mwyaf addas a dawnus ar gyfer pob prosiect. Byddant yn datblygu adnabyddiaeth drylwyr a gwerthfawr o actorion a aned, sy’n byw ynteu wedi eu hyfforddi’n broffesiynol yng Nghymru ac yn rheoli perthynas y Cwmni â’r actorion rheini a’u cynrychiolwyr. Bydd y Cydymaith Castio yn cyfrannu at ac yn gwireddu polisi a strategaeth castio ac â rhan weithredol ac arwyddocaol wrth sicrhau bod y cwmni yn cyflawni ei amcanion o rhan darparu cyfle cyfartal i berfformwyr, yn cynrychioli cymunedau a’r nodweddion a ddiogelir ar lwyfannau NTW. Byddant yn gweld ystod eang o weithiau newydd led-led Cymru a thu hwnt a dylent fod a rhan bwysig o ran y sgwrs greadigol o fewn NTW.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn danbaid o blaid creu theatr rhyfeddol ac yn credu’n gryf mewn gwireddu cyfleoedd cyfartal o fewn y celfyddydau.

Cyflog: £27,500 y flwyddyn.

Cyfnod: Tymor Sefydlog (2 mlynedd), Amser Llawn.

Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau o bob cefndir. Gellir derbyn ceisiadau yn Gymraeg neud yn Saesneg.

 

Dyddiad cau: dydd Iau 14 Rhagfyr, 1pm

Cyfweliadau: yr wythnos yn dechrau 8fed o Ionawr 2018, Caerdydd

Am ragor o wybodaeth, ffurflen gais, swydd ddisgrifiad a manyleb y person yn Gymraeg neu yn Saesneg, ewch i’n gwefan.

http://nationaltheatrewales.org/about#workwithus