Sesiynau hyfforddiant Helfa Gelf 2018 ar gyfer artistiaid a gweithwyr creadigol
Os hoffech chi fanteisio ar hyfforddiant, cymrwch olwg ar y sesiynau isod y byddwn yn eu cynnal cyn yr haf. Pan fydd modd ichi gadw lle ar y sesiynau, byddwn yn rhoi gwybod ichi drwy e-bost, ar ein tudalen Facebook HG, ar twitter ac ar ein gwefan o dan yr adran ‘digwyddiadau’.
Yna bydd y sesiynau hyfforddi yn parhau ar ôl y digwyddiad stiwdio agored ym mis Medi.
Amserlen hyfforddiant Gwanwyn 2018 Helfa Gelf:
Dydd Mercher 16 Mai, gweithdai ar-lein. Disgownt o 75% ar gyfer aelodau. Brandio Ymarferol ac Adrodd Stori: Mae creu brand cryf yn hanfodol i fusnesau creadigol bychain er mwyn eu galluogi i ddenu sylw mewn marchnad gystadleuol. https://www.eventbrite.co.uk/
Dydd Mercher 6 Mehefin, gweithdai ar-lein. Disgownt o 75% ar gyfer aelodau. Dechrau gwerthu ar-lein: Os ydych chi eisiau creu a lansio eich gwefan gyntaf neu eich siop Etsy eich hun ond yn cael eich llethu gan yr holl gwestiynau a phenderfyniadau, dyma’r sesiwn i chi. https://www.eventbrite.co.uk/
Dydd Gwener Mehefin yr 8fed : Sgiliau Fideo i artistiaid, rhan 1. Nod y diwrnod ydy dysgu sut i gynhyrchu ffilm naratif fer amdanoch chi – yr artist. TAPE, Bae Colwyn.https://www.eventbrite.com/e/
Dydd Mercher Mehefin y 13eg: Cyllid i Artistiaid, adnabod amrywiaeth o ffynonellau cyllid, cwblhau ceisiadau am gyllid, rheoli a gwerthuso prosiectau wedi eu hariannu. Canolfan Grefft Rhuthun, Rhuthun.https://www.eventbrite.com/e/
Dydd Gwener Mehefin y 15fed: Sgiliau Fideo, TAPE, Bae Colwyn, golygu ar MACS – rhan 2 yn ddewisol
Dydd Sadwrn Mehefin yr 16eg: Sut mae modd i weithwyr creadigol lwyddo mewn ardaloedd cefn gwlad, Patricia van den Akker o’r Ymddiriedolaeth Dylunio, Galeri, Caernarfon.https://www.eventbrite.com/e/
Dydd Gwener Mehefin yr 22ain: Sgiliau Fideo, TAPE, Bae Colwyn, dangos ffilm – rhan 3
Dydd Mercher Gorffennaf y 4ydd: Gweithdy Dosbarth Meistr mewn Serameg, Maen Alaw, Penmaenmawr
Dydd Gwener Gorffennaf y 6ed: Cynhyrchu ar y cyd ar gyfer Artistiaid. Gweithdy ymarferol i artistiaid sydd wrthi’n datblygu gwaith ar y cyd neu sy’n bwriadu gwneud hynny. Tabernacl, Llandudno
Dydd Mercher Gorffennaf yr 11eg: Un Noson yn Unig a fydd yn bwrw golwg ar guradu arddangosfeydd fel digwyddiad unigol. Bydd sesiwn yn dilyn am bopeth ynghlwm â gosod ac arddangos gwaith celf. Tŷ Pawb, Wrecsam
Gorffennaf: Dosbarth Meistr, Ffotograffiaeth Collodion Gwlyb, Balaclafa, Caernarfon
Dydd Mercher Awst y 29ain: Cynhyrchu ar y cyd i Artistiaid. Gweithdy ymarferol i artistiaid sydd wrthi’n datblygu gwaith ar y cyd neu sy’n bwriadu gwneud hynny. Stiwdio Maelor, Corris, Gwynedd
Bu ein sesiynau ym mis Mawrth ac Ebrill ynghylch tynnu lluniau o’ch gwaith celf eich hun ac Adobe Photoshop yn llwyddiant ysgubol. Os oes digon o alw, byddwn yn ystyried eu cynnal eto. Os ydych chi wedi fy e-bostio eisoes i gofnodi eich diddordeb, rhowch wybod drwy anfon e-bost at katie@helfagelf.co.uk