Ffilm Cymru

TROED YN Y DRWS: UN BORE MERCHER

A ninnau wedi ennill gwobr am ein cynllun peilot hyfforddiant Troed yn y Drws, mae Ffilm Cymru bellach yn cynnig tri chyfle newydd i ddysgu sgiliau gwerthfawr ar set cynhyrchiad teledu mawr.

Mae ail gyfres boblogaidd S4C / BBC Cymru Wales, Un Bore Mercher / Keeping Faith, yn saethu hyd at ddiwedd mis Chwefror 2019, ac mae Ffilm Cymru, mewn partneriaeth ag S4C a Vox Pictures, ynghyd â chymdeithasau tai lleol, yn cynnig hyfforddiant am ddim ac wythnos ar y set.

Mae Troed yn y Drws yn cynnig i rai dros 18 oed nad ydyn nhw fel arall mewn swydd, addysg na hyfforddiant, y cyfle i dreulio wythnos yn dysgu sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr a all fod yn gychwyn ar yrfa yn y diwydiannau creadigol a thu hwnt. Bydd hyfforddeion yn derbyn arweiniad, cyngor a mentoriaeth gan arbenigwyr yn y diwydiant, a gallai ymgeiswyr cymwys hefyd dderbyn cymorth tuag at deithio a gofal plant.

Rolau sydd ar gael:

– Yr Adran Gynhyrchu (Rhedwr Dan Hyfforddiant)

– Cynorthwyydd Dan Hyfforddiant yn yr Adran Gelf

– Hyfforddai’r Adran Leoliadau

Efallai y bydd gennych chi sgiliau trosglwyddadwy presennol yn y meysydd hyn, fel gwaith coed, cymhwyster celf, neu mewn rôl weinyddol neu gydlynu er enghraifft.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y cyfleoedd yma.  Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan rai sydd yn cyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg yn ogystal â’r rhai sydd yn dysgu ond yn eiddgar i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Caiff y gwaith ffilmio ei wneud ar draws canol de Cymru (union leoliadau i’w cadarnhau ond caiff cludiant ei gynnig).

Dyddiad cau ymgeisio yw 12 hanner dydd ar 10 Ionawr 2019 ac mae manylion y ffurflen gais i’w gweld fan hyn.

Cânt eu gwahodd i ddiwrnod recriwtio yn ne Cymru ar 16 Ionawr (lleoliad i’w gadarnhau).

Caiff yr hyfforddiant ei gynnal ar 29-31 Ionawr, a bydd y lleoliadau’n cychwyn ar 4 – 8 Chwefror.

Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglŷn â’ch cais, cysylltwch ag Angharad Williams drwy e-bost: angharad@ffilmcymruwales.com