Hoffech chi fod yn rhan o’r genhedlaeth nesaf sy’n adrodd hanes Cymru?
Diwrnod agored yn Amgueddfa Denedalethol y Glannau ar Ddydd mercher yma -2-4 y.h
Ydych chi wedi meddwl am yrfa yn gweithio mewn amgueddfeydd, cestyll neu leoliadau diwylliannol? Os felly, gallai’r cyfle hyfforddi hwn fod ar eich cyfer chi . . .
Gall Uchelgais Diwylliannol fod y cyfle hyfforddiant rydych chi wedi bod yn disgwyl amdano. Cewch brofiad o fynd ar leoliad â chyflog am 12 mis mewn ystod o fannau treftadaeth ddiwylliannol gydag astudiaeth gefnogol am NVQ Lefel 2 mewn Treftadaeth Ddiwylliannol.
Rhaid i chi fod yn:
- 18 i 24 oed
- Ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
- Ddim yn raddedig
- Gallu cymudo i’r mannau
- TGAU mewn Cymraeg/Saesneg a Mathemateg neu gyfatebol â hynny
Byddai’n ofynnol i chi fynychu’r safleoedd am 30 awr yr wythnos, a gweithio i gynllun dysgu unigol i gwblhau eich cymhwyster.
Bydd bwrsariaeth o £800 y mis yn cael ei dalu i chi, yn ogystal â thaliad ychwanegol o £250 ar ôl cwblhau’r cymhwyster. Bydd cyfraniad bach hefyd at gostau teithio i leoliadau.
Sut i wneud cais:
Ebostiwch: jo.esposti@ccskills.org.uk am ragor o wybodaeth.