Prentisiaethau Cyfryngau Creadigol a Digidol yng Nghymru

Media apprenticeshipsYN RECRIWTIO NAWR!

  • Cei dy Dalu
  • Cei Gymhwyster
  • Cei Brofiad
  • Cei Gysylltiadau
  • A DOES DIM FFIOEDD i’w talu!

Mae 29 o SWYDDI PRENTIS GWAG ar gael i ti geisio amdanyn nhw NAWR! Am y disgrifiadau swyddi a sut i ymgeisio cer i – www.prentiscyfryngau.info

Gyda swyddi yng Nghwmbrân, Caerdydd, Abertawe, Caerfyrddin, Criccieth, Caernarfon a Phorthaethwy mae digon o ddewis o leoliadau!

Cei ddewis o’r Adran Gelf, Adran Gynhyrchu, Adran Gamera, Adran Sain, Adran Effeithiau Arbennig, Radio, Adran Wisgoedd â’r Adran Ol-Gynhyrchu.

Y DYDDIAD CAU ar gyfer ceisiadau i bob swydd yw Hanner Dydd, Dydd Gwener 16eg o Fai 2014

Os hoffet gael sgwrs gyda ni am y Prentisiaethau gellir cysylltu â ni ar – 029 2046 5533 neu drwy ebost caerdydd@cyfle.co.uk

Ariannir y rhaglen Brentisiaeth hwn yn rhannol gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru