Cyngor Celfyddydau Cymru yn Skills Cymru 2017

Venue Cymru, Llandudno, 4 Hydref 2017, 5-7pm

Motorpoint Arena, Caerdydd, 11 Hydref 2017, 4-6.30pm 

Yr wythnos hon byddwn ni yn Llandudno ar gyfer Skills Cymru. Os ydych chi yno hefyd, dewch i ddweud ‘helo’. Pleser o’r mwyaf inni yw cael cwmni Awdur Ieuenctid Cymru, Sophie McKeand, ar y stondin ynghyd â Mr Phormula a Little Light Company yn yr ardal Get Skilled. Galwch draw i gael gwybodaeth a chyfle i gymryd rhan mewn barddoniaeth bync, celfyddyd ddigidol a bît-bocsio.

 

Yr wythnos ganlynol byddwn ni yng Nghaerdydd ar gyfer Skills Cymru lle bydd gennym fwy o dalentau ysbrydoledig a chreadigol yn ymuno gyda ni. Yn eu plith bydd perfformiadau gwych a gweithdai pypedau gyda Familia De La Noche, cyfle i greu ffilm fer iawn yn ein ciosg Slo-Mo gyda Storm and Shelter, cyfle i wneud breichled gyda’r gemydd arobryn Karen Dell’Armi, a chreu darn prydferth o decstilau gyda Laura Thomas. Bydd yr ardal Get Skilled yn sicr o fod yn boblogaidd iawn!

 

Byddwn ni a’r unigolion creadigol proffesiynol yn fwy na pharod i siarad â chi am yrfaoedd yn y sector creadigol. Felly holwch gwestiynau dirifedi a rhoi cynnig ar un o’r sgiliau!

 

Mae’n rhaid cael tocynnau i fynychu’r digwyddiad, ond maent yn rhad ac am ddim. Mae’r digwyddiad wedi’i anelu at  bobl ifainc 15-18 oed, eu hathrawon a’u rhieni.

 

I gloi, dyma air o gyngor gan yr awdur Sophie McKeand:

 

 

“Peidiwch â rhoi’r ffidil yn y to a pheidiwch â sefyll yn eich unfan. Parhewch i ymdrechu ac esblygu a dysgu caru mannau rhyfedd eich creadigrwydd. Nid oes raid ichi ffitio i mewn yn unlle, cofiwch.”