Hanes a Datblygiad

Cafodd yr elusen, a alwyd i ddechrau yn Celfyddydau ar gyfer Pobl Anabl yng Nghymru (ADPW), ei sefydlu yn 1982 o ganlyniad i gynllun rhwng Cyngor Pobl Anabl Cymru a Chymdeithas Celfyddydau de-ddwyrain Cymru yn dilyn y Gynhadledd Blwyddyn Ryngwladol Pobl Anabl, a gynhaliwyd yng Nghymru yn 1981.

Briff ADPW oedd gwneud iawn am y diffyg darpariaeth celfyddydau a gynigiwyd yng Nghymru i bobl anabl. Roedd y sefydliad yn cynnig amrywiol brosiectau a chyrsiau celfyddydau ledled Cymru gan weithio ar y cyd â gweithwyr celfyddydau proffesiynol eraill yn ogystal â gyda’r sector gwirfoddol a’r sector statudol.

Cerrig Milltir Pwysig

Yn 1994, ar ôl cynnal adolygiad cynhwysfawr o bolisïau a gwasanaethau daeth ADPW yn Celfyddydau Anabledd Cymru (Arts Disability Wales), gyda’r nod o ddatblygu yn adnodd cenedlaethol ar faterion yn ymwneud â’r celfyddydau ac anabledd gan gynnig gwasanaethau megis hyfforddiant, a gwybodaeth a chyngor. Newidiwyd y cyfansoddiad, gyda’r amod y dylai 51% o fwrdd y sefydliad fod yn bobl anabl, ond ar adegau bu’r bwrdd dan arweiniad pobl anabl 100%.

Yn 2003 cafodd Celfyddydau Anabledd Cymru ei adolygu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gan godi nifer o faterion yr oedd angen i Celfyddydau Anabledd Cymru eu hystyried, yn bennaf o safbwynt ei rôl fel sefydliad dan arweiniad pobl anabl, ac o ran ei ddatblygiad i’r dyfodol. Roedd yn bwysig i’r sefydliad gael ei weld yn cael ei arwain gan bobl anabl.

Yn dilyn yr adolygiad, newidiwyd enw Saesneg y sefydliad yn Disability Arts Cymru yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn Hydref 2003. Tu allan i Gymru roedd weithiau dryswch ynglŷn â’r hyn roedd ‘Celfyddydau Anabledd Cymru’ yn ei olygu. Yn y mudiad Celfyddydau Anabledd DU gyfan deallir bod y term ‘celfyddydau anabledd’ yn golygu celfyddydau sydd dan reolaeth ac arweiniad pobl anabl. Dylanwadodd hyn ar yr enw newydd, gan egluro’r ffocws ar gelfyddydau anabledd.

Cyflawniadau pwysig

1993 ymlaen: Gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru i lunio polisi ar anabledd, dyfeisio rhaglenni hyfforddiant cydraddoldeb anabledd ar gyfer sefydliadau celfyddydau a ariennir drwy refeniw.

1995: Cynhaliwyd y Cabaret Celfyddydau Anabledd cyntaf yng Nghymru yn Neuadd y Ddinas Caerdydd

2001: Cyllid refeniw gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gan adlewyrchu pwysigrwydd cyfraniad pobl anabl a’r rhan a chwaraeant yn y maes celfyddydau yng Nghymru. Yn flaenorol, deuai ein nawdd gan y Swyddfa Gymreig dan yr adran dros ‘Ofal Cymdeithasol’.

2003: DETonate Cwrs preswyl 16 diwrnod i hyfforddi 10 o bobl anabl fel hyfforddwyr cydraddoldeb anabledd penodol i’r celfyddydau.

2003: The Write Stuff & Hidden Dragons – prosiect ysgrifennu creadigol a oedd yn cynnwys hyd at 92 o bobl anabl. Fe wnaeth bron hanner yr ysgrifenwyr gyfrannu at Hidden Dragons, sef y detholiad cyntaf o farddoniaeth a rhyddiaith gan ysgrifenwyr anabl yng Nghymru.

2006: Ysgol Ddrama Anghyffredin – cwrs hyfforddiant preswyl 13 diwrnod i 12 o actorion anabl

2008: Equal Spaces; guidance on best practice for arts organisations – ysgrifennom y ddogfen hon ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru, yn seiliedig ar ymgynghori helaeth gyda’r sector celfyddydau.

Gofodau Cyfartal – Yn fyw! Dwy seminar ar yr arferion gorau o safbwynt mynediad ar gyfer sefydliadau celfyddydau. Roedd y seminarau a gynhaliwyd yn Galeri, Caernarfon a Theatr Glan yr Afon, Casnewydd, yn arddangos gwaith gan artistiaid anabl o Gymru.

2009-12: Whose Flame is it Anyway? Fel rhan o’r prosiect Power of the Flame ar gyfer Treftadaeth, fe wnaeth DAC gydlynu prosiectau celfyddydau ledled Cymru i bobl ifanc anabl. Bu dros 300 o artistiaid, ysgrifenwyr a pherfformwyr ifanc yn rhan o’r prosiectau theatr, celf weledol, dawns, ysgrifennu creadigol a cherdd ac fe gyrhaeddom gynulleidfaoedd o dros 7,000 o bobl. Bu 2012 yn ddathliad gwirioneddol ac yn rhagflas ar y dyfodol.

Mae'r sylwadau wedi cau.